Caersalem, dinas hedd, O! na bawn yno'n byw; O hyd cawn weled gwedd A llewyrch ŵyneb Duw: Mae weithiau'n dywyll arna'i'n awr; Fy haul nid â byth yno i lawr. Yn Nuw ymddiried 'rwy' Wrth deithio'r llwybr cul; Fe'm dygodd eisoes trwy, Do, gyfyngderau fil; Hyderus etto wyf trwy ffydd Yn nerth fy Nuw caf gario'r dydd. Caf wel'd f'Anwylyd cu Pan elwyf draw i dre', Yr hwn o'i gariad fu Yn dioddef yn fy lle; Caf wel'd yr Iesu - digon yw; Mae'r Oen a laddwyd etto'n fyw. Nesau mae'r hyfryd ddydd Caf seinio'r newydd gân, Ar ol caethiwed maith, Am waredigaeth lân, Yn mysg y llu sydd fel y wawr, Yn mhell o wlad y cystudd mawr. gyfyngderau fil :: gyfyngderau lu 1764 Dafydd Jones 1711-77
priodolwyd hefyd i | attributed also to
Tonau [666688]: |
Jerusalem, city of peace, O that I may be living in it! Always I would get to see the countenance And radiance of the face of God: There are dark times upon me now; My sun will never go down there. In God trusting I am While travelling the narrow path; He has already led me through, Yes, a thousand straits; Bold still I am through faith In the strength of my God I will get to carry the day. I will get to see my dear Beloved When I go yonder home, He who of his love was Suffering in my place; I will get to see Jesus - enough it is; The Lamb who was slain is alive again. Approaching is the delightful day When I may sound the new song, After long captivity, About complete deliverance, Amongst the host who are like the dawn, Far from the land of the great tribulation. a thousand straits :: a host of straits tr. 2016,22 Richard B Gillion |
|